SL(6)675 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) a elwir yn gyffredin yn Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2025.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau net nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Mae Adran 31(1) o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o 5 mlynedd rhwng 2016 a 2050.
Mae Rheoliad 3 yn pennu’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2031-35 fel ei bod wedi’i chyfyngu ar gyfartaledd o 73% islaw’r llinell sylfaen.
Cyn gosod cyllidebau carbon mewn rheoliadau, rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a dwyn y cyngor i ystyriaeth. Ym mis Mai 2025, rhoddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei gyngor i Weinidogion Cymru ar lefel pedwerydd cyllideb carbon Cymru ar gyfer y cyfnod pum mlynedd rhwng 2031 a 2035 (“Cyllideb Garbon 4”). Yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau, mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai diben y rheoliadau hyn yw derbyn y lefel a argymhellir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd a phennu Cyllideb Garbon 4 ar gyfartaledd o 73% islaw’r llinell sylfaen.
Y weithdrefn
Cadarnhaol Drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Yn rheoliad 2, defnyddiwyd y term “y Ddeddf” sydd wedi’i ddiffinio yn rhaglith y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, fel y nodwyd ym mharagraff 4.14(5) o Ddrafftio Deddfau i Gymru, nid yw'n bosibl diffinio term yn y rhaglith ar gyfer y darpariaethau gweithredol yng nghorff y
Rheoliadau. Felly, dylid ailadrodd teitl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn llawn yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
19 Tachwedd 2025